Skip to content ↓

Choose Language

Penlas yr Yd - Mr Davies (Blwyddyn 3/4)

Croeso i flwyddyn 3/4, Dosbarth Penlas yr yd.  

 

Yn ein dosbarth ni, mae 21 o ddisgyblion ac rydym yn bobl ifanc hapus, gweithgar ac unigryw. Mae Mr Davies a Mrs Brill yn ein helpu ni i ddysgu a gweithio gyda chymorth Mr Griffiths pob am yn ail ddydd Llun.

Mae ein sesiynau ymarfer corff ar ddydd Mercher a dydd Gwener. Mae disgwyl i ni newid ar gyfer ymarfer corff felly mae angen i ni gofio ein cit ac esgidiau ymarfer pob tro. 

Dewch i ymweld a’n tudalen dosbarth yn ystod y flwyddyn er mwyn gweld lluniau o'r dosbarth ac i ddarganfod mwy am beth rydym yn dysgu!

 

Gwybodaeth pwysig

Ymarfer Corff – Dydd Mercher a Dydd Gwener

Dychwelyd llyfrau darllen gyda’r cofnod – erbyn Dydd Mercher.

Ffrwyth/llysiau yn unig ar gyfer byrbryd amser chwarae.

 

Themâu’r Tymor 

Ar gyfer y tymor hwn, mae ein hysgol yn canolbwyntio ar ddwy thema ysbrydoledig sy’n llywio ein dysgu a’n gwerthoedd:

  • Parch, Parod a Diogel – Arwyddair yr ysgol sy’n annog disgyblion i fod yn garedig, yn barod i ddysgu, ac yn cyfrannu at amgylchedd diogel a chefnogol.

  • Drws Dychymyg – Thema greadigol sy’n gwahodd plant i archwilio eu syniadau, mynegi eu hunain drwy adrodd straeon, celf a drama, ac i ddatgloi pŵer eu dychymyg ar draws y cwricwlwm.

Mae’r themâu hyn wedi’u gwreiddio yn ein gweithgareddau dosbarth, ein gwasanaethau ac yn ein cyfleoedd cyfoethogi. Rydym yn annog teuluoedd a thiwtoriaid i ymgysylltu â’r syniadau hyn i gefnogi dysgu y tu hwnt i’r diwrnod ysgol.

Ffocws Iaith 

Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar ymestyn brawddegau drwy ychwanegu gwybodaeth, llawysgrifen, ac rydym hefyd wedi bod yn ysgrifennu e-bost fel rhan o’n gwaith ysgrifennu.

Ffocws Mathemateg

Yn y dosbarth, rydym wedi bod yn gweithio ar werth lle, haneru, dyblu, ac rydym hefyd wedi dechrau edrych ar ffracsiynnau – hanner a chwarter.

 

Lincs i ddefnyddio yn y tŷ

Darllen Co. – https://llwyfan.darllenco.cymru/login

Seesaw – https://seesaw.com/

Mathletics - https://www.mathletics.com/uk/

Hwb Cymru - https://hwb.gov.wales/