Cennin Pedr - Mrs Persa (Y Ganolfan)
Croeso i’r Ganolfan.
Mae 6 o blant yn y Ganolfan ar hyn o bryd ac rydym yn ddosbarth bywiog, cyfeillgar a pharchus. Mae Mrs Persa, Miss Hancock, Mrs Richards, Mr Jones a Miss Thomas yn ein helpu ni i ddysgu a gweithio. Mae cyfleoedd i ni gydweithio fel tîm ac rydyn
yn mwynhau bod yn aelodau, Cyngor Ysgol, Siarter Iaith, Cyngor Eco.
Rydym yn cael y cyfle i integreiddio yn ein dosbarthiadau prif ffrwd yn enwedig ar gyfer ymarfer Corff a Jig-so. Eleni bydden ni yn ymgymryd mewn sesiynau dysgu tu allan yn fwy rheolaidd (mwy o fanylion i ddilyn).
Dewch yn ôl i dudalen y dosbarth yn ystod y flwyddyn er mwyn gweld lluniau o'r dosbarth ac i ddarganfod mwy am beth rydyn ni’n dysgu! Cofiwch hefyd i ddefnyddio eich mewngofnodion Seesaw i weld beth rydyn ni wedi bod yn brysur yn gwneud.
Gwybodaeth pwysig
Ymarfer corff – Dydd Llun a Dydd Gwener (bl5). Dydd Mercher a Dydd Gwener (bl3/4). Dydd Mawrth (bl2)
Dychwelyd llyfrau darllen gyda’r cofnod – erbyn Dydd Mercher.
Ffrwyth/llysiau yn unig ar gyfer byrbryd.
Lincs i ddefnyddio yn y tŷ
Darllen Co. – https://llwyfan.darllenco.cymru/login
Seesaw – https://seesaw.com/